Trafod hefo rhai o genod mwyaf di-flewyn-ar-dafod Cymru.Podlediad yn dathlu merched Cymru, trwy geisio canfod pa nodweddion mae nhw’n ei rannu hefo gwrachod confensiynol.
S3 E3 · Tue, December 17, 2024
Send us a text Yn y bennod yma, mae Mari'n eistedd i lawr gyda'r actores, cantores, perfformiwr, a chydlynydd agosatrwydd Lisa Jên Brown ym mro ei mebyd, Bethesda. Mae'r ddwy yn sgwrsio am ddarganfod eu llwyth, byw yn driw i'w hunain, a'r holl anturiaethau hudolus a gwrachaidd mae Lisa wedi bod yn eu gwneud. Peidiwch â cholli'r sgwrs ysbrydoledig a swyngyfareddol hon! Byddwch Wych, Byddwch Wrachaidd ✨ In this episode, Mari sits down with the brilliant actress, singer, performer, and intimacy coordinator Lisa Jên Brown in her hometown of Bethesda. They chat about finding their tribe, embracing your authentic self, and all the magical, witchy adventures Lisa’s been up to. Don’t miss this inspiring and enchanting conversation!
S3 E2 · Tue, October 22, 2024
Send us a text "Gwrach glên oedd Rala Rwdins..." Anaml iawn mae rhywun yn cael y cyfle i gyfweld ag arwres eu plentyndod , ond dyna'n union mae'r podlediwr Mari Elen yn gwneud yn y bennod arbennig yma o Gwrachod Heddiw. Wedi ei recordio yn yr Orsaf ym Mhenygroes, mae Mari yn holi'r awdur, arlunydd, dramodydd ac ymgyrchydd Angharad Tomos. Gwrandewch a mwynhech sgwrs hir am Wlad y Rwla, Ymgyrchu, Eileen Beasley, Cyflwr y byd a pha mor bwysig ydi bod yn driw i dy hun a'th egwyddorion. Sgwrs sy'n plethu'r difyr, y dwys a'r digri. Mae'r gyfres yma wedi'w ariannu gan gronfa Sbarduno Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Prydain. Diolch i'r Orsaf ym Mhenygroes am gefnogi a chynnig cartref mor braf. Diolch i Frân Wen am yr offer Sain.
S3 E1 · Tue, October 01, 2024
Send us a text Croeso nôl i fyd Gwrachod Heddiw! Dyma'r bennod cyntaf yn ein trydydd cyfres, ac mae'n fraint gael cyflwyno y digrifwr Caryl Burke! Yn y bennod doniol a thwymgalon hon, mae’r digrifwr Caryl Burke yn ymuno â ni o flaen cynulleidfa byw yn Nhafarn y Plu, Llanystumdwy am sgwrs di-flewyn-ar-dafod am gathod, galar, comedi a boobs. Rydyn ni'n plymio'n ddwfn i'r hyn sy'n gwneud Caryl yn debycach i wrach heddiw - boed yn gasineb at gathod, ei synnwyr gomedi hudolus, neu ei phersbectif unigryw ar fywyd. Gyda digon o chwerthin, eiliadau gonest, dyma'r cyntaf o'i fath ar gyfer y gyfres yma. Mae'r gyfres yma wedi'w ariannu gan gronfa Sbarduno Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Prydain. Diolch i Tafarn y Plu am gefnogi a cynnig cartref mor braf. Diolch i Frân Wen am yr offer Sain ac i Lewis Williams am weithio'r offer Sain. Welcome back to the world of Gwrachod Heddiw! This is the first episode in our third Series, and it's a privilege to introduce comedian Caryl Burke. In this funny and heartfelt episode, comedian Caryl Burke joins us in front of a live audience at Tafarn y Plu, Llanystumdwy for a frank chat about cats, grief, comedy and boobs. We dive deep into what makes Caryl more like a witch today - whether it's her hatred of cats, her magical sense of comedy, or her unique perspective on life. With plenty of laughs, honest moments, this is the first of its kind for this series. This series has been funded by Gwynedd Council's and the British Governments Ignite fund.
S2 E6 · Sun, October 31, 2021
Send us a text CALAN GAEAF HAPUS WITCHEZ! Dyma bennod newydd o Gwrachod Heddiw i ddathlu. Yn y bennod yma, dwi'n siarad hefo'r actor / perfformiwr / bardd / cyfarfwyddwr o fri Lauren Albertina-Morais am yr holl bethau sydd yn ei gwneud hi'n wrachaidd. Mwynhewch Hags, A Plis @iwch fi hefo'ch gwisgoedd gwrachaidd! Byddwch wych, Byddwch Wrachaidd
S2 E5 · Tue, August 17, 2021
Send us a text Sgwrs gyda'r swynwraig Mhara Starling am wir ystyr y term "Gwrach". Yn y bennod hir hon o Gwrachod Heddiw, mae Mhara yn sôn am hanes swyngyfaredd a doethgrefft yng Nghymru, ei hanes personol hi a'r rhwystrau mae hi wedi wynebu yn ei bywyd i gyrraedd lle mae hi rŵan. Sgwrs ddwys, ddigri ac ysbrydol! Byddwch Wych, Byddwch Wrachaidd xoxo
S2 E4 · Mon, July 19, 2021
Send us a text Sgwrs am Iechyd meddwl, cynrychiolaeth o ferched ifanc Mwslimaidd yn y cyfryngau yng Nghymru a ffitio mewn. Ymunwch hefo Mari Elen mewn sgwrs gwrachaidd hefo'r awdur ifanc Mahum Umer, un o gyd-awduron cyfres y Pump.
S2 E3 · Tue, May 11, 2021
Send us a text Trafod hefo'r wrach Llinos Anwyl am ei chelf, pwer geiriau, pwysau teulu ar dy hunaniaeth a sut oedd merched yn cosbi dynion oedd yn gneud petha rybish yn yr hen ddyddiau.
S2 E2 · Tue, April 20, 2021
Send us a text Yr actor a’r model Emmy Stonelake ydy’r wrach dwi’n sgwrsio hefo heddiw, am nabod dy hun, cathod, drag race a bod yn ferched blewog ✨
S2 E1 · Tue, March 30, 2021
Send us a text Nabod dy werth, nabod dy gorff a Jini Me Jos. Sgwrs hefo'r perfformiwr / gwneuthiwr theatr a'r artist, Mirain Fflur am yr holl bethau sydd yn ei gwenud hi'r gwrach ydy hi. Mwynhau y podlediad? Hoffwch, tanysgrifiwch a rhowch adolygiad bach. Mae o'n gwneud BYD o wahaniaeth, coeliwch chi fi! Trydarwch gan ddefnyddio #GwrachodHeddiw i adael i mi wybod pa bethau Gwrachaidd 'dachi 'di bod yn gwneud, rhannwch hefo ffrind a sleidiwch mewn i'n DMs i. Bydwch wych, byddwch wrachaidd XOXO
S1 E8 · Mon, December 21, 2020
Send us a text Heuldro'r Gaeaf Hapus fy swynwragedd ysbennydd! Ym mhennod ola'r gyfres mi ydw i'n trafod hefo'r Academwrach hyfryd Hanna Hopwood Griffiths am ferched yr oesoedd canol , gwallt, esgor a sut mae hi'n gwneud ei bywyd hi'n haws. Diolch am eich cefnogaeth yn ystod y misoedd diwethaf, dwi'n lyfio witchez fi.
S1 E7 · Wed, December 09, 2020
Send us a text Doula, Mam, Gwrach o Waunfawr. Sgwrs hefo'r hyfryd Mama Lleuad (Catrin Jones) am foddion, rhianta, placenta a natur. Mwynhewch!
S1 E6 · Wed, November 25, 2020
Send us a text "Pan dwi'n cymharu'n ateb wan hefo be dd'udodd Mared Llywelyn am ri mwyar duon ym mhoced ei chwaer dwi fatha: Wyt ti'n serious?!" Sgwrs hefo'r bardd a'r awdur Llio Maddocks am berthnasau, Ffrindiau, Matilda, yr obsesiwn hefo : "Dwi ddim fatha' genod eraill", periods a lot o chwerthin! Mwynhewch!
S1 E5 · Wed, November 04, 2020
Send us a text Madarch, cwtshus i goed, byw ben dy hun ac wrth gwrs Siwsi Dôl-y-Clochydd. Sgwrs hefo Brenhines byd gwrachaidd Cymru, Bethan Gwanas. "Hefo synhwyro ysbrydion, ella dyna pam dwi’n gallu byw mewn tŷ ben fy hun... ma’ ‘na ysbrydion bob man, dwi’m yn gweld nhw... poeni dim arna fi”
S1 E4 · Wed, October 21, 2020
Send us a text "Mae menywod yn treulio eu holl bywydau yn rhoi pŵer nhw a rhoi gwaed nhw a rhoi egni nhw mewn i bobl erill fel teulu a partneriaid a pethe, ond mae gwrachod yn pobl sy'n troi y pŵer 'na nôl at ei hun." Sgwrs gyda'r awdur a'r dramodydd Nia Llinos am bod yn od, yn lleiafrifol a sut mae horror yn helpu hefo gor-bryder.
S1 E3 · Thu, October 08, 2020
Send us a text Positifrwydd, Gwrachod, Ffrogiau o'r 70au a chydig bach o Chwedloniaeth. Sgwrs gyda'r pensaer a'r arlunydd holl alluog, Efa Lois. Sgwrs hyfryd am godi llais pan bod angen, y broses creu a meithrin syniadau a'i chariad at cyd-ferched... a gwrachod.
S1 E2 · Thu, September 24, 2020
Send us a text Piriyds, Corff, Dyslecsia a tylluan o'r enw Bili. Sgwrs onest hefo Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd, Gwennan Mair Jones. "Os dani'n meddwl am y classics... dwi methu hedfan na?" Mwynhewch sgwrs hyfryd hefo gwrach hyfryd.
S1 E1 · Wed, September 09, 2020
Send us a text "Ma'n ffrindia fi'n d'eud fi 'sa'r person cynta' i ga'l fy hudo mewn i ymuno hefo cult" Sgwrs gyda'r dramodydd Mared Llywelyn am ei natur cenedlaetholgar, ei bro, ei chyfnod yn y brifysgol a Hocus Pocus. Mwynhewch!
loading...